Ar hyn o bryd, nid yw Swyddfa Gofrestru Caerdydd yn gallu ateb ymholiadau dros y ffôn. Nid effeithir ar apwyntiadau wyneb yn wyneb ac mae'r tîm yn dal i ateb ymholiadau a gyflwynir drwy'r we/e-bost.

Seremonïau Enwi

Rydym yn falch o gynnig Seremonïau Enwi mewn partneriaeth â Civil Ceremonies Ltd.

Mae Seremoni Enwi yn rhoi cyfle i chi ddathlu genedigaeth plentyn neu groesawu plentyn mabwysiedig neu lysblant i’ch teulu.

Er bod seremonïau bedyddio traddodiadol yn dal i fod yn boblogaidd, mae cynnydd yn y galw am seremoni amgen nad yw’n grefyddol. Does dim rhaid i rieni fod yn briod a gallant fod o unrhyw gefndir diwylliannol, â chredoau crefyddol neu ysbrydol ai peidio.

Mae hyd y seremoni’n dibynnu ar y math o wasanaeth a’r gwahanol ddewisiadau rydych yn eu dewis. Rydym yn argymell eich bod yn neilltuo 30 munud ar gyfer eich digwyddiad arbennig.

Mae pob seremoni’n unigryw ac yn dibynnu ar y dewisiadau fyddwch yn eu gwneud o’r opsiynau sydd ar gael. Mae hyn yn golygu y gallwch deilwra seremoni sy’n arbennig i chi a’ch teulu y byddwch yn ei chofio a’i thrysori wrth i’ch plant dyfu.

Mae seremonïau enwi yn rhoi’r cyfle i chi:

  • ddathlu rhoi enw i’r plentyn neu’r plant
  • mynegi ymrwymiad i’r plentyn. Mae rhiant/rhieni yn ymrwymo i ofalu a charu am ei blentyn / eu plentyn o flaen teulu a ffrindiau
  • croesawu’r plentyn i’r teulu a’r gymuned. Mae perthnasau a gwesteion yn cyfarfod ac yn croesawu aelod newydd y teulu
  • penodi mentoriaid neu oedolion cefnogol – yn debyg i enwebu rhieni bedydd. Gall teulu a ffrindiau addo i helpu a chefnogi’r plentyn wrth iddo dyfu o fewn ei gymuned
  • rhoi cyfle i fam-guod a thad-cuod wneud addewidion i gefnogi’r rheini wrth fagu eu hŵyr neu wyres newydd.

Rydym yn cynnig seremonïau enwi yn ein swyddfa gofrestru yn Neuadd y Ddinas ac mewn lleoliadau a gymeradwyir ledled y ddinas. Gellir eu dathlu ar unrhyw ddiwrnod yr wythnos ac eithrio Dydd Gwener y Groglith, Dydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan.

Bydd y ffi yn amrywio yn dibynnu ar y diwrnod a’r amser rydych yn eu dewis, a bydd angen i chi dalu blaendal i sicrhau dyddiad ac amser y seremoni. Os bydd eich seremoni’n cael ei chynnal mewn lleoliad cymeradwy, bydd angen i chi gysylltu â lleoliad penodol o’ch dewis ynghylch argaeledd a ffioedd.

Amser parti!

Am bob ymholiad ynglŷn â seremonïau enwi neu i drefnu cyfarfod cyn y seremoni, anfonwch e-bost atom yn seremoniau@caerdydd.gov.uk neu ffoniwch y swyddfa ar 029 2087 1680 neu 029 2087 1684.

Mae’r wefan hon wedi’i diogelu gan reCAPTCHA ac mae Polisi Preifatrwydd ac Amodau Gwasanaeth Google yn berthnasol.

© 2024 Swyddfa Gofrestru Caerdydd - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd