Oherwydd yr argyfwng Iechyd presennol bydd ein swyddfa ar gau i’r cyhoedd oni bai bod gennych apwyntiad a drefnwyd ymlaen llaw gyda ni. Ar gyfer unrhyw ymholiadau anfonwch e-bost atom ar Registrars@cardiff.gov.uk neu ffoniwch ni ar 029 2087 1680/84
Oherwydd yr argyfwng Iechyd presennol bydd ein swyddfa ar gau i’r cyhoedd oni bai bod gennych apwyntiad a drefnwyd ymlaen llaw gyda ni. Ar gyfer unrhyw ymholiadau anfonwch e-bost atom ar Registrars@cardiff.gov.uk neu ffoniwch ni ar 029 2087 1680/84
Gallwch wneud cais am gopïau o dystysgrifau genedigaethau, priodasau a marwolaethau a gofrestrwyd yng Nghaerdydd ers 1837 (dechrau’r cofnodion swyddogol).
Mae cofnodion Partneriaethau Sifil ar gael ar gyfer 2005 ymlaen.
Bydd angen y wybodaeth ganlynol arnoch ar gyfer pob math o gais:
math o dystysgrif rydych ei heisiau: genedigaeth, priodas, partneriaeth sifil neu farwolaeth
enw neu enwau’r sawl mae’r dystysgrif yn berthnasol iddo / iddynt
dyddiad y digwyddiad
lleoliad y digwyddiad
enwau’r rhieni (os ydych yn gwneud cais am dystysgrif geni)
unrhyw wybodaeth berthnasol arall a all ein helpu i ddod o hyd i’r cofnod
Nodwch: Ni allwn ddyroddi copi o dystysgrif ond os ydym yn cadw’r gofrestr sy’n cynnwys y cofnod gwreiddiol. Os nad ydym yn cadw’r cofnod, rhaid ichi wneud cais i’r swyddfa gofrestru sy’n cadw’r cofnod gwreiddiol.
Gallwch wneud cais trwy’r post, dros y ffôn neu ar-lein. Os oes gennych ymholiadau cyffredinol ynghylch tystysgrifau, anfonwch neges e-bost at ymholiadau.tystysgrif@caerdydd.gov.uk
Os ydych yn gwneud cais dros y ffôn, bydd angen ichi ddefnyddio cerdyn credyd neu gerdyn debyd i dalu. Dylech fod â manylion eich carden wrth law yn barod.
Gallwch ddewis un o ddau wasanaeth:
Gwasanaeth Safonol
Bydd copïau o dystysgrifau a archebwyd yn cael eu hanfon drwy bost ail ddosbarth cyn 15 diwrnod gwaith yn dilyn gwneud taliad £11.00 y dystysgrif yn llwyddiannus.
Gwasanaeth Blaenoriaeth
Gellir archebu copïau o dystysgrifau o ddydd Llun i ddydd Gwener a byddant yn cael eu hanfon drwy bost dosbarth cyntaf y diwrnod gwaith nesaf yn dilyn taliad llwyddiannus o £35.00 y dystysgrif.