Mae nifer o opsiynau gwahanol ar gyfer chwilio trwy gofnodion, cael copïau o dystysgrifau ac ymchwilio i achau yng Nghaerdydd:
- Gweld tystysgrifau geni, marwolaeth a phriodasau. Gwneud cais am gopïau o dystysgrifau
- Chwilio cofnodion genedigaeth, marwolaeth, priodas a chyfrifiad gan ddefnyddio Ancestry a Find My Past.
Mae’r gwefannau hyn yn hygyrch trwy Gyfrifiadur Llyfrgell yn unig. Archebu sesiwn ar gyfrifiadur llyfrgell. Codir am argraffu dogfennau ar gostau argraffu safonol. - Ymweld ag Archifau Morgannwg.
Cofnodion claddu Caerdydd
Gallwch hefyd gael cofnodion o gladdu aelodau’r teulu yng Nghaerdydd ar gyfer y safleoedd canlynol:
- Mynwentydd Cathays, y Gorllewin, Pantmawr, Radur, Llanisien, Llandaf a’r Ddraenen Penygraig o 1859 ymlaen.
- Amlosgfa’r Ddraenen Penygraig ers iddi agor ym 1953
- Cofnodion rhannol ar gyfer Mynwent Adamsdown. Cofnodion ar gyfer claddedigaethau sy’n dangos enw, galwedigaeth, cyfeiriad ac oedran y person a gladdwyd.
Gellir chwilio cofnodion cyfrifiadurol o 1912 ymlaen ar gyfer yr holl fynwentydd a’r amlosgfa ar eich rhan chi am ddim.
Gallwn chwilio cofnodion hŷn am ffi os bydd digon o wybodaeth gennym i gynnal y chwiliad.
Nid ydym yn cadw cofnodion ar gyfer:
- Eglwys Gadeiriol Llandaf
- Mynwentydd eglwysi eraill yng Nghaerdydd
- mynwentydd, amlosgfeydd neu fynwentydd eglwys y tu allan i Gaerdydd
Yr hyn y gallwn ei ddarparu:
- copïau o orchmynion claddu ar gyfer pob chwiliad llwyddiannus am gofnodion claddu
- copïau o dderbynebau ar gyfer prynu beddau ar gyfer pob chwiliad llwyddiannus am gladdedigaethau cyn 1912
- mapiau a chynlluniau beddau i helpu i leoli beddau
- chwiliadau achyddiaeth
Gallwch chwilio yn ein hystafell cofnodion yn y Ddraenen Penygraig trwy apwyntiad, a bydd ffi fesul awr. Cysylltwch â Gwasanaethau Profedigaeth Caerdydd.
Yr hyn na allwn ei ddarparu:
- Copïau o weithredoedd beddau.
- Copïau o gofnodion sy’n gysylltiedig ag amlosgiadau oherwydd nad yw’r cofnodion hyn ar gael i’r cyhoedd yn yr un ffordd ag yw cofnodion claddu.