Ar hyn o bryd, nid yw Swyddfa Gofrestru Caerdydd yn gallu ateb ymholiadau dros y ffôn. Nid effeithir ar apwyntiadau wyneb yn wyneb ac mae'r tîm yn dal i ateb ymholiadau a gyflwynir drwy'r we/e-bost.

Priodasau yng Nghaerdydd

Os ydych yn priodi, yn mynd i mewn i bartneriaeth sifil, adnewyddu eich addunedau, croesawu plentyn i’r teulu neu os ydych eisiau seremoni am unrhyw reswm arall, byddwch yn dod o hyd i bopeth sydd ei angen arnoch yma yng Nghaerdydd.

Cynllunio eich Seremoni

Mae cymaint i feddwl amdano wrth gynllunio eich diwrnod mawr. Rydym yma i sicrhau bod pethau’n rhedeg mor ddiffwdan â phosibl.

Swyddfa Gofrestru

Beth bynnag sydd gennych mewn golwg ar gyfer eich diwrnod arbennig, byddwn yn gwneud popeth y gallwn i fodloni eich dymuniadau.

Lleoliadau Cymeradwy

Mae ystod eang o leoliadau yng Nghaerdydd ac o’i chwmpas sydd wedi’u trwyddedu ar gyfer priodasau sifil, partneriaethau sifil ac achlysuron eraill.

Partneriaethau Sifil

Dathlwch bartneriaeth sifil gyda ni neu trowch eich partneriaeth yn briodas.

Adnewyddu Addunedau

Dathlwch eich priodas neu ailddatgan eich ymrwymiad i’ch gilydd yn eich perthynas.

Copïau o Dystysgrifau

Gwnewch gais am gopi o dystysgrifau geni, priodas neu farwolaeth.

Mae’r wefan hon wedi’i diogelu gan reCAPTCHA ac mae Polisi Preifatrwydd ac Amodau Gwasanaeth Google yn berthnasol.

© 2024 Swyddfa Gofrestru Caerdydd - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd