Yn dilyn cyflwyno’r gwasanaeth Archwilydd Meddygol statudol ar 9 Medi 2024, rhaid cyfeirio
pob marwolaeth yng Nghymru a Lloegr, lle nad yw’r crwner yn ymwneud â hi, at yr Archwilydd
Meddygol ar gyfer craffu annibynnol cyn cofrestru.
Bydd yr Archwilydd Meddygol yn cysylltu â’r perthnasau agosaf dynodedig i:
- Drafod achos y farwolaeth
- Mynd i’r afael ag unrhyw bryderon
- Anfon y gwaith papur angenrheidiol ymlaen i’r Swyddfa Gofrestru berthnasol
Ar ôl i ni dderbyn y gwaith papur gan yr Archwilydd Meddygol neu’r Crwner, byddwn yn cysylltu â’r perthnasau agosaf i gynnig apwyntiad i gofrestru’r farwolaeth. Nodwch: Dylid cofrestru marwolaethau o fewn 5 diwrnod i ni dderbyn y dogfennau gofynnol.
Heb glywed gennym?
Os nad ydych wedi clywed gennym o fewn 2 ddiwrnod i’r Archwilydd Meddygol gadarnhau ei fod wedi anfon y gwaith papur, anfonwch e-bost atom gyda’r manylion canlynol:
- Enw llawn yr ymadawedig
- Dyddiad a lleoliad y farwolaeth
- Eich enw, eich perthynas â’r ymadawedig, a’ch rhif cyswllt
Methu teithio i Gaerdydd?
Daeth y ddeddfwriaeth frys sy’n caniatáu cofrestru dros y ffôn i ben ar 24 Mawrth 2022. Os na allwch deithio i Gaerdydd:
- Gallwch fynd i’ch Swyddfa Gofrestru leol i gwblhau datganiad
- Bydd y cofrestrydd yn anfon yr wybodaeth ymlaen atom yng Nghaerdydd
- Rhaid archebu unrhyw dystysgrifau’n uniongyrchol gennym ni a byddant yn cael eu postio ar ôl i’r cofrestriad gael ei gwblhau
Cywiro neu newid cofnod sydd wedi’i gwblhau
Codir ffi am unrhyw geisiadau i gywiro cofnod ar ôl i’r cofrestriad gael ei gwblhau ac ar ôl i chi lofnodi’r ddogfen.
Bydd angen talu £83.00 i ystyried y cais yn eich swyddfa gofrestru leol, neu fel arall, os bydd yn rhaid gwneud cais am gywiro cofnod i’r Swyddfa’r Cofrestrydd Cyffredinol, yna bydd ffi o £99.00 yn daladwy.
Nid yw talu’r ffi hon yn sicrhau y bydd y cywiriad yn cael ei ganiatáu ac ni fydd y ffioedd a dalwyd yn cael eu had-dalu os caiff y cais ei wrthod.
Dweud Wrthym Unwaith
Rydym hefyd yn cynnig y gwasanaeth Dweud Wrthym Unwaith. Os hoffech ddefnyddio hwn yn ystod eich apwyntiad gofynnwn yn garedig i chi ddod â’r canlynol lle y bo’n briodol:
- Rhif Yswiriant Gwladol yr ymadawedig ac ar gyfer unrhyw briod/partner sifil sydd yn dal yn fyw
- Pasbort Prydeinig yr ymadawedig (Dilys neu wedi dod i ben)
- Trwydded Yrru’r ymadawedig
- Bathodyn Glas yr ymadawedig
Ymwneud y crwner
Os ydych wedi derbyn tystysgrif dros dro, nid ydym yn gallu cofrestru’r farwolaeth cyn i’r crwner ddod â’i ymchwiliadau i ben, ond os hoffech ddefnyddio’r gwasanaeth Dweud Wrthym Unwaith anfonwch e-bost atom gyda ffotograff/sgan o’r dystysgrif dros dro a gallwn greu cyfeirnod unigryw er mwyn i chi allu defnyddio’r gwasanaeth.
Trefnu’r angladd
Mae rhagor o wybodaeth ar gael am sut i drefnu angladd yng Nghaerdydd ar wefan Gwasanaethau Profedigaeth Caerdydd.