Ar hyn o bryd, nid yw Swyddfa Gofrestru Caerdydd yn gallu ateb ymholiadau dros y ffôn. Nid effeithir ar apwyntiadau wyneb yn wyneb ac mae'r tîm yn dal i ateb ymholiadau a gyflwynir drwy'r we/e-bost.

Cofrestru genedigaeth

Ble rydw i’n cofrestru genedigaeth?

Os anwyd y baban yn Nosbarth Caerdydd bydd angen mynychu’r Swyddfa Gofrestru yng Nghaerdydd i gofrestru’r genedigaeth. Allwch gwneud apwyntiad ar-lein yma.

Mae apwyntiadau ar gael yn ein prif swyddfa yn Archifau Morgannwg, Clos Parc Morgannwg, Lecwydd o ddydd Llun i ddydd Gwener ac yn y gymuned yn Hwb Gabalfa ac Ystum Taf ar ddydd Llun, LLyfrgell Caerdydd Canolog ar ddydd Mawrth, Hwb Threlai a Chaerau ar ddydd  Mercher a Hwb Llaneirwg ar ddydd Iau. Sylwer bod angen gwneud apwyntiad o flaen llaw i gofrestru eich plentyn.

Os nad yw’n gyfleus i chi ddod i Gaerdydd, gallwch gofrestru drwy ddatganiad mewn unrhyw Swyddfa Gofrestru yng Nghymru neu Loegr. Yna bydd y swyddfa honno’n anfon y wybodaeth am yr enedigaeth ymlaen atom ni yma yng Nghaerdydd a byddwn yn rhoi’r wybodaeth ar y gofrestr geni.

Gellir archebu tystysgrifau a thalu amdanynt drwy gysylltu â ni yn hwyrach a byddant yn cael eu postio atoch.

Nodwch y bydd cofrestru’r enedigaeth y tu allan i’r ardal y mae wedi digwydd ynddi yn arwain at oedi wrth dderbyn y dystysgrif/tystysgrifau geni.

Pwy all gofrestru genedigaeth?

Os yw rhieni’r baban yn briod neu mewn partneriaeth sifil â’i gilydd, gallant gofrestru’r baban gyda’i gilydd neu gall y naill riant gofrestru ar ei ben ei hun. Os roeddynt yn briod ar adeg yr enedigaeth, mae gan y fam a’r ail rhiant gyfrifoldeb rhiant yn awtomatig.

Os nad yw rhieni’r baban yn briod neu mewn partneriaeth sifil â’i gilydd, mae gan y fam gyfrifoldeb rhiant awtomatig a gall gofrestru’r enedigaeth ar ei phen ei hun, ond ni all ychwanegu manylion y tad/rhiant oni bai ei fod ef/hi yn dod i’r apwyntiad cofrestru gyda hi.

Mae cyfrifoldeb rhiant dros eich plentyn yn rhoi hawliau a chyfrifoldebau cyfreithiol pwysig. Heb y cyfrifoldeb hwn, does gennych chi ddim yr hawl i fod yn rhan o benderfyniadau pwysig, megis ble mae’r plentyn yn byw, ei addysg, crefydd neu driniaeth feddygol. Mae cyfrifoldeb rhiant yn golygu bydd y gyfraith yn eich trin fel rhiant y plentyn, a bydd gennych gyfrifoldeb cyfartal am ei fagu.

Yn gyffredinol, bydd cynnwys manylion y ddau rhiant yn y cofnod o fudd i’ch baban. Fodd bynnag, os nad yw hynny’n bosib ar adeg cofrestru, gallai fod yn bosibl gwneud hynny’n hwyrach.

 

Mae gwybodaeth ychwanegol ar gael yma (yn Saesneg yn unig)

Beth os na allaf siarad Cymraeg neu Saesneg?

Dewch â rhywun gyda chi i’ch helpu i gofrestru ynghyd â phasbortau a thystysgrifau priodi, lle bo hynny’n bosibl. Gallwch ofyn i ffrind neu berthynas ddod gyda chi, ond cofiwch na allant fynd ar eich rhan.

Beth sydd ei angen arnoch i gofrestru genedigaeth

  • Dyddiad geni
  • Lle geni
  • Amser geni os yn efeilliaid, tripledi ac ati
  • P’un a bod eich baban yn fachgen neu’n ferch
  • Enwau cyntaf a chyfenwau y bwriedir eu rhoi i’r baban.

Os nad yw’r rhieni’n briod â’i gilydd a bod y baban yn cael ei gofrestru gyda chyfenw’r fam, gellir newid cyfenw’r tad yn hwyrach os bydd y pâr yn priodi ac yna ailgofrestru’r enedigaeth.

  • Dyddiad geni
  • Lleoliad yr Enedigaeth
  • Enw(au) cyntaf a chyfenw ac unrhyw enwau eraill a ddefnyddir
  • Eich cyfenw cyn priodi os ydych yn briod, neu’ch bod wedi priodi’n flaenorol
  • Cyfeiriad ar adeg yr enedigaeth
  • Swydd ar adeg genedigaeth y baban, neu eich swydd flaenorol os nad ydych mewn gwaith
  • Os oeddech wedi priodi â thad y babi ar adeg yr enedigaeth, gofynnir i chi am ddyddiad y briodas
  • Nifer y plant blaenorol gyda’r partner presennol ac unrhyw bartneriaid blaenorol

Mae angen cynnwys y rhain ar y gofrestr:

  • Dyddiad geni
  • Lleoliad yr Enedigaeth
  • Enw(au) cyntaf a chyfenw ac unrhyw enwau eraill a ddefnyddir
  • Swydd ar adeg genedigaeth y baban, neu eich swydd flaenorol os nad ydych mewn gwaith

Dewch â’r dogfennau canlynol gyda chi i gadarnhau’r manylion hyn a sicrhau bod y wybodaeth yn cael ei rhoi’n gywir, megis:

  • Pasbort(au)
  • Tystysgrif(au) Geni
  • Trwydded Yrru / Trwyddedau Gyrru
  • Tystysgrif Briodas / Partneriaeth Sifil
  • Gweithred newid enw (os ydych wedi newid eich enw)

Wrth gofrestru, bydd y cofrestrydd yn gofyn i chi i gadarnhau bod y wybodaeth a gofnodwyd ar y gofrestr yn gywir. Mae’n bwysig eich bod yn rhoi amser i sicrhau eich bod wedi rhoi’r wybodaeth gywir a bod y cofrestrydd wedi ei chofnodi’n gywir hefyd.

Rydym yn argymell bod pob rhiant/unigolyn sy’n rhoi gwybodaeth yn dod â rhyw fath o ddogfen adnabod gydag ef neu hi gan ei bod yn ddogfen gyfreithiol ac mae’n hollbwysig bod y wybodaeth yn cael ei chofnodi’n gywir.

Tystysgrifau Geni

Ar ôl i chi gofrestru genedigaeth eich baban gallwch brynu tystysgrif. Mae tystysgrif lawn yn gopi cyflawn o’r cofnod ar y gofrestr.  Mae’n ofynnol at lawer o ddibenion megis gwneud cais am basbort, budd-dal plant ac ati, a gellir ei phrynu am ffi o £11.00 ar ddiwrnod y cofrestru.

I brynu Tystysgrif Geni ar ôl y diwrnod cofrestru, bydd y gost yn fwy. I archebu tystysgrif sy’n berthnasol yma.

Cywiro neu newid cofnod sydd wedi’i gwblhau

Nodwch y codir ffi ar geisiadau i gywiro cofnod ar ôl iddo gael ei gwblhau ac ar ôl i chi lofnodi’r ddogfen.

Bydd angen talu £75 i ystyried y cais yn eich swyddfa gofrestru leol, neu fel arall, os byddwch yn gwneud cais am gywiro cofnod i’r Swyddfa’r Cofrestrydd Cyffredinol, yna bydd ffi o £90 yn daladwy.

Nid yw talu’r ffi hwn yn sicrhau y bydd y cywiriad yn cael ei ganiatáu ac ni fydd y ffioedd a dalwyd yn cael eu had-dalu os caiff y cais ei wrthod.

Newid enw(au) cyntaf eich plentyn

Mae’r Ddeddf Cofrestru Genedigaethau a Marwolaethau yn galluogi cofnodi newidiadau i enwau cyntaf ar y gofrestr geni. Gallwch gyflwyno cais am wneud hyn os rhoddwyd yr enwau cyntaf newydd o fewn 12 mis ar ôl cofrestru’r enedigaeth.

Y ffi

Mae ffi statudol na ellir ei had-dalu o £40 am bob cais. Rhaid talu’r ffi ar adeg gwneud cais.

Yr hyn sydd angen i chi ei wneud

  • Os cafodd eich plentyn ei fedyddio mewn eglwys Gristnogol, bydd angen ‘Tystysgrif o’r enw a roddwyd ar adeg bedyddio’ wedi’i chwblhau gan ficer neu weinidog yr eglwys honno. Gellir cael tystysgrif wag o’ch swyddfa gofrestru leol.
  • Os nad yw eich plentyn wedi cael ei fedyddio, bydd angen i chi lenwi ‘Tystysgrif o enw na chafodd ei roi ar adeg bedyddio’ sydd ar gael o’ch swyddfa gofrestru leol.
  • Gallwch fynd â’r dystysgrif wedi’i chwblhau i’r swyddfa gofrestru yn yr ardal lle cafodd eich plentyn ei eni, neu gallwch bostio’r dystysgrif iddi. Bydd y cofrestrydd yn ychwanegu’r enw(au) cyntaf newydd at gofnod eich plentyn yn y gofrestr geni. Os byddwch yn postio’r cais bydd angen i chi gysylltu â’r swyddfa gofrestru i bennu sut i dalu’r ffi.
  • Dylech ddweud wrth y cofrestrydd os ydych am gael tystysgrif geni newydd ar gyfer eich plentyn. Os byddwch yn prynu tystysgrif lawn, bydd yn dangos yr enw(au)cyntaf newydd yn ogystal â’r gwreiddiol. Os byddwch yn prynu tystysgrif fer, dim ond yr enw(au) cyntaf newydd fydd yn cael ei ddangos arni. Bydd y cofrestrydd yn rhoi gwybod i chi faint fydd angen i chi ei dalu am y tystysgrifau. Dylech fod yn ymwybodol y bydd y swyddfa basbort am weld tystysgrif lawn yn hytrach na’r fersiwn lai.

Nodiadau Pwysig

  • Os oes unrhyw Orchmynion Llys ynglŷn ag enwi eich plentyn, rhaid i chi gydymffurfio â chyfarwyddiadau’r llys.
  • Ni ellir cofnodi newid yng nghyfenw eich plentyn ar y gofrestr geni.
  • Rhaid gwneud y newidiadau i enw(au) cyntaf eich plentyn o fewn 12 mis ar ôl cofrestru’r enedigaeth. Gallech gofnodi’r newid yn y gofrestr geni ar ôl y 12 mis, ond bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth ddogfennol sy’n dangos y cafodd yr enw ei newid o fewn y cyfnod 12 mis.
  • Ar ôl i’ch plentyn gael ei fedyddio, ni allwch gofnodi newid i’r enwau Cristnogol a roddwyd ar adeg y bedydd.
  • Dim ond unwaith y gallwch gofnodi newid i enw(au) cyntaf eich plentyn.

Mae’r wefan hon wedi’i diogelu gan reCAPTCHA ac mae Polisi Preifatrwydd ac Amodau Gwasanaeth Google yn berthnasol.

© 2024 Swyddfa Gofrestru Caerdydd - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd