Ar hyn o bryd, nid yw Swyddfa Gofrestru Caerdydd yn gallu ateb ymholiadau dros y ffôn. Nid effeithir ar apwyntiadau wyneb yn wyneb ac mae'r tîm yn dal i ateb ymholiadau a gyflwynir drwy'r we/e-bost.

Partneriaethau Sifil

Mae partneriaeth sifil yn bartneriaeth a gydnabyddir yn gyfreithiol fel dewis amgen i briodas.

I drefnu’ch seremoni partneriaeth sifil neu apwyntiad hysbysu ffoniwch 029 2087 1680.

Ffurfio Partneriaeth Sifil

Yn wahanol i briodas nid oes geiriau rhagnodedig i’w dweud, yn hytrach caiff partneriaeth ei ffurfio gan y ddau ohonoch yn darllen datganiad cyfreithiol a llofnodi’r atodlen partneriaeth sifil ym mhresenoldeb Cofrestrydd a dau dyst.

Ar gyfer Partneriaeth Sifil, rhaid i’r cwpl:

  • bod yn 18 oed neu’n hŷn
  • peidio â bod yn perthyn i’w gilydd
  • peidio â bod mewn priodas neu bartneriaeth sifil sy’n bodoli eisoes.

I drefnu Partneriaeth Sifil yng Nghaerdydd:

  • mae angen ichi gyflwyno hysbysiad o’ch bwriad i gofrestru yn y Swyddfa Gofrestru
  • bydd angen ichi gadw slot amser ar gyfer eich seremoni. Gall hyn fod hyd at ddwy flynedd ymlaen llaw
  • mae angen ichi dalu’r ffi statudol am gyflwyno hysbysiad o fwriad

29 diwrnod ar ôl cyflwyno hysbysiad gallwch gofrestru’ch partneriaeth trwy lofnodi dogfen partneriaeth sifil gerbron y cofrestrydd a’ch dau dyst.

Mae hefyd un ffi am ffurfio’r bartneriaeth sifil.

Cewch wybod am gynllunio’ch seremoni.

Mae croeso i chi ddathlu unrhyw ffordd a fynnwch, o lofnodi’r atodlen â Chofrestrydd a dau dyst i seremoni lawn â ffrindiau a theulu. Nid oes angen ichi gael seremoni i ffurfio partneriaeth sifil. Fodd bynnag, os ydych chi’n bwcio Swit Llandaf neu un o’n lleoliadau cymeradwy, rydym yn cynnig dewisiadau o seremoni i helpu i wneud y diwrnod yn un arbennig.

Trosi partneriaeth sifil yn briodas

Os oes gennych diddordeb i drosi partneriaeth sifil yn briodas cysylltwch a ni 029 20871 680 neu seremoniau@caerdydd.gov.uk

Mae’r wefan hon wedi’i diogelu gan reCAPTCHA ac mae Polisi Preifatrwydd ac Amodau Gwasanaeth Google yn berthnasol.

© 2024 Swyddfa Gofrestru Caerdydd - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd