Ar ôl i’ch cais am ddinasyddiaeth Brydeinig gael ei gymeradwyo gan y Swyddfa Gartref cewch eich gwahodd i gymryd rhan mewn seremoni.
Dyma’r cam olaf ar eich taith i ddod yn ddinesydd Prydeinig.
Nod y seremoni dinasyddiaeth yw galluogi ymgeiswyr i ddeall yn llawn beth yw’r hawliau a chyfrifoldebau a ddaw gyda dinasyddiaeth Brydeinig a hefyd sicrhau y cânt eu croesawu’n iawn i’r gymuned.
Bydd dinasyddion newydd yn cael llythyr oddi wrth y Swyddfa Gartref yn rhoi gwybod iddynt fod eu cais wedi cael ei gwblhau, ac ar yr un pryd bydd y Swyddfa Gartref yn anfon eich tystysgrif atom ni.
Trefnu a chymryd rhan mewn seremoni
Pan gewch eich llythyr cymeradwyo oddi wrth y Swyddfa Gartref, dylech gysylltu â ni i drefnu dyddiad eich seremoni.
E-bost: dinasyddiaeth@caerdydd.gov.uk
Neu ffoniwch: 029 2087 1680
Ar ôl cael cymeradwyaeth, byddwn yn anfon atoch gadarnhad ysgrifenedig o ddyddiad ac amser eich seremoni.
Rhaid ichi gymryd rhan yn y seremoni os ydych chi’n 18 oed neu’n hŷn ac yn byw yn y Deyrnas Unedig. Nid yw’n ofynnol i blant iau na 18 oed gymryd rhan mewn seremoni, ond mae croeso iddyn nhw ddod os ydych chi eisiau dod â nhw.

Yn y seremoni

Y tu allan i’r Plasty
Pryd a ble y cynhelir seremonïau yng Nghaerdydd
Yng Nghaerdydd rydym yn cynnal seremonïau grŵp cyhoeddus ar foreau Mercher dynodedig yn y Plasty.
Os nad yw’r rhain yn addas cewch hefyd drefnu seremoni breifat o dalu ffi. Cynhelir y rhain yn Neuadd y Ddinas a gellir eu cynnal o ddydd Llun i ddydd Gwener yn ystod oriau swyddfa.
I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch neges e-bost at dinasyddiaeth@caerdydd.gov.uk neu ffoniwch ni ar 029 2087 1680.
Yr hyn y dylech ddod ag ef i’r seremoni
Pan ddewch i gymryd rhan yn eich seremoni dinasyddiaeth, gwnewch yn siŵr y dewch â’r canlynol:
- eich llythyr gwahoddiad gwreiddiol oddi wrth y Swyddfa Gartref
- eich Hawlen Breswylio Fiometrig os oes gennych un, neu eich pasbort neu ddull adnabod â llun.
Os nad anfonasoch eich Hawlen Breswylio Fiometrig yn ôl pan wnaethoch gais i ddod yn ddinesydd Prydeinig, cofiwch ei hanfon yn ôl cyn pen pum diwrnod ar ôl eich seremoni dinasyddiaeth.
Gallwch anfon y ddogfen hon yn ôl trwy ddanfoniad wedi’i gofnodi i’r cyfeiriad canlynol:
Freepost RRYX-GLYU-GXHZ
Returns Unit
PO Box 163
Bristol
BS20 1AB
Os nad ydych yn anfon yr Hawlen Breswylio Fiometrig yn ôl, neu’n hysbysu’r adran am y rheswm nad ydych wedi gallu ei hanfon yn ôl, mae’n bosibl y bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn gosod dirwy o hyd at £1,000.
Yn ystod y seremoni
Cynhelir y seremoni ym mhresenoldeb yr Arglwydd Faer ac Arglwydd Raglaw Caerdydd (neu eu dirprwyon) ac mae’n dechrau gydag anerchiad o groeso.
Bydd pob ymgeisydd yn tyngu llw neu’n cadarnhau teyrngarwch i’w Mawrhydi’r Frenhines ac yn gwneud adduned o deyrngarwch i’r Deyrnas Unedig i gynnal ei gwerthoedd a’i chyfreithiau, cyn y cyflwynir iddo dystysgrif o ddinasyddiaeth Brydeinig a phecyn croeso.
Cyflwyno’r dystysgrif sy’n nodi’r adeg y caiff eich dinasyddiaeth Brydeinig ei dyroddi.
Ar ôl y seremoni bydd cyfle i gael tynnu ffotograffau proffesiynol gyda’r Arglwydd Faer a’r Arglwydd Raglaw a chaiff y rhain eu hanfon atoch chi maes o law yn rhad ac am ddim.