Ar hyn o bryd, nid yw Swyddfa Gofrestru Caerdydd yn gallu ateb ymholiadau dros y ffôn. Nid effeithir ar apwyntiadau wyneb yn wyneb ac mae'r tîm yn dal i ateb ymholiadau a gyflwynir drwy'r we/e-bost.

Adnewyddu Llwon

Rydym yn falch o gynnig Seremonïau Adnewyddu Llwon mewn partneriaeth â Civil Ceremonies Ltd.

Mae seremonïau yn para rhwng 15 munud a hanner awr yn dibynnu ar sut rydych yn dymuno llunio eich gwasanaeth. Mae croeso i westeion yn y seremoni. Byddwch hefyd angen gwahodd dau berson i fod yn dystion i chi’n arwyddo’r dystysgrif.

Bydd gweinydd yn arwain y seremoni ond ni fydd ganddo gapasiti swyddogol, hyd yn oed os yw hefyd yn gweithio fel cofrestrydd.

Gallwch gael eich seremoni mewn sawl gwahanol leoliad, gan gynnwys ein hystafell Dewi Sant neu yn un o leoliadau cymeradwy Caerdydd.

Ar gyfer unrhyw fath o ymholiadau, neu i drefn cyfarfod cyn y seremoni, cysylltwch â ni.

Bydd angen ichi ddangos eich tystysgrif priodas a thalu blaendal wrth archebu eich seremoni.

Sylwer: Nid oes unrhyw statws cyfreithiol gan y llwon yn y seremoni na chyda’r dystysgrif a roddir yn rhan o’r seremoni ac nid ydynt yn rhwymo’n gyfreithiol y rheiny sy’n cymryd rhan.

Prisiau

Dydd Llun i Dydd Gwener

£250

Dydd Sadwrn

£300

Dydd Llun i Ddydd Gwener

£400

Dydd Sadwrn

£450

Gwyliau'r Banc

£450

Mae’r wefan hon wedi’i diogelu gan reCAPTCHA ac mae Polisi Preifatrwydd ac Amodau Gwasanaeth Google yn berthnasol.

© 2024 Swyddfa Gofrestru Caerdydd - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd