Ar hyn o bryd, nid yw Swyddfa Gofrestru Caerdydd yn gallu ateb ymholiadau dros y ffôn. Nid effeithir ar apwyntiadau wyneb yn wyneb ac mae'r tîm yn dal i ateb ymholiadau a gyflwynir drwy'r we/e-bost.

Ystafell Dewi Sant

Oherwydd ail-lleoliad y Swyddfa Gofrestru yn y dyfodol agos, nid oes bellach modd archebu ein hystafelloedd Dewi Sant a Santes Dwynwen.

Ystafell brydferth ac urddasol

Mae Ystafell Dewi Sant yn ddelfrydol ar gyfer priodasau mwy gyda seddi ar gael ar gyfer hyd at 50 o westeion.

Mae eil ar gyfer mynediad crand yn yr ystafell, ac mae detholiad o lwon, cerddoriaeth a darlleniadau ar gael.

Mae’r ystafell ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener o 10am tan 3:30pm a dydd Sadwrn o 10am tan 1pm.

Mae dydd Gwener a dydd Sadwrn yn hynod boblogaidd ar gyfer seremonïau. Cadwch eich lle ymlaen llaw mewn da bryd i sicrhau y cewch y dyddiad a’r amser a ffefrir gennych.

Manylion am yr ystafell

Lle ar gyfer: 50

Dewis llw, cerddoriaeth a darlleniadau

Argaeledd

Dydd Llun i ddydd Gwener, 10am – 3.30pm

Dydd Sadwrn 10am – 1pm

Ffioedd am yr ystafell

Ar gyfer priodas a phartneriaeth sifil yn ystafell Dewi Sant.

Monday to Thursday

£361
  • Ffi am seremoni priodas neu partneriaeth sifil – £350
  • Tystysgrif Priodas neu partneriaeth sifil – £11

Friday

£361
  • Ffi am seremoni priodas neu partneriaeth sifil – £350
  • Tystysgrif Priodas neu partneriaeth sifil – £11

Saturday (up to 1pm)

£406
  • Ffi am seremoni priodas neu partneriaeth sifil – £395
  • Tystysgrif Priodas neu partneriaeth sifil – £11

*Os yw un ohonoch yn ddinesydd y tu allan i Ardal Economaidd Ewropeaidd gall y ffi hysbysu fod yn £47 yr un yn dibynnu ar yr amgylchiadau. Cysylltwch â ni am gyngor.

A hoffech gadw’r ystafell hon?
“Could I personally thank you all for making our wedding absolutely perfect. The registrars made us feel so special it felt like they were part of the family!”- Mr & Mrs J
“Thank you very much it was a smooth and professional service from booking to ceremony!”- Mrs H
“Super easy, honestly thought it would be more stressful and complicated. You were all very kind and absolutely amazing.”- Mr & Mrs R

Mae’r wefan hon wedi’i diogelu gan reCAPTCHA ac mae Polisi Preifatrwydd ac Amodau Gwasanaeth Google yn berthnasol.

© 2024 Swyddfa Gofrestru Caerdydd - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd