Ar hyn o bryd, nid yw Swyddfa Gofrestru Caerdydd yn gallu ateb ymholiadau dros y ffôn. Nid effeithir ar apwyntiadau wyneb yn wyneb ac mae'r tîm yn dal i ateb ymholiadau a gyflwynir drwy'r we/e-bost.

Partneriaethau Sifil

Mae partneriaeth sifil yn bartneriaeth a gydnabyddir yn gyfreithiol fel dewis amgen i briodas.

 

Diweddariad Tachwedd 2019: Mae rheoliadau i ymestyn partneriaethau sifil i gyplau nad ydych o’r un rhyw bellach wedi’u cymeradwyo gan Senedd y DU a fe’u gwnaed ar 5 Tachwedd 2019. Daw’r rheoliadau hyn i rym ar 2 Rhagfyr 2019 a bydd modd cynnal seremonïau sifil â chyplau nad ydynt o’r un rhyw o 31 Rhagfyr 2019.

Cyn i chi allu ffurfio partneriaeth sifil rhaid i’r ddau ohonoch Roi Hysbysiad o leiaf 29 diwrnod cyn dyddiad y seremoni. Gall cyplau nad ydynt o’r un rhyw Roi Hysbysiad o 2 Rhagfyr 2019.

I drefnu’ch seremoni partneriaeth sifil neu apwyntiad hysbysu ffoniwch 029 2087 1680/4.

 

Ffurfio Partneriaeth Sifil

Yn wahanol i briodas nid oes geiriau rhagnodedig i’w dweud, yn hytrach caiff partneriaeth ei ffurfio gan y ddau ohonoch yn darllen datganiad cyfreithiol a llofnodi’r atodlen partneriaeth sifil ym mhresenoldeb Cofrestrydd a dau dyst.

Ar gyfer Partneriaeth Sifil, rhaid i’r cwpl:

  • bod yn 18 oed neu’n hŷn (neu ddarparu tystiolaeth o gydsyniad os yw un neu’r ddau / ddwy yn 16 neu 17 oed)
  • peidio â bod yn perthyn i’w gilydd
  • peidio â bod mewn priodas neu bartneriaeth sifil sy’n bodoli eisoes.

I drefnu Partneriaeth Sifil yng Nghaerdydd:

  • mae angen ichi gyflwyno hysbysiad o’ch bwriad i gofrestru yn y Swyddfa Gofrestru
  • bydd angen ichi gadw slot amser ar gyfer eich seremoni. Gall hyn fod hyd at ddwy flynedd ymlaen llaw
  • mae angen ichi dalu’r ffi statudol am gyflwyno hysbysiad o fwriad

29 diwrnod ar ôl cyflwyno hysbysiad gallwch gofrestru’ch partneriaeth trwy lofnodi dogfen partneriaeth sifil gerbron y cofrestrydd a’ch dau dyst.

Mae hefyd un ffi am ffurfio’r bartneriaeth sifil.

Cewch wybod am gynllunio’ch seremoni.

Mae croeso i chi ddathlu unrhyw ffordd a fynnwch, o lofnodi’r atodlen â Chofrestrydd a dau dyst i seremoni lawn â ffrindiau a theulu. Nid oes angen ichi gael seremoni i ffurfio partneriaeth sifil. Fodd bynnag, os ydych chi’n bwcio Ystafell Dewi Sant neu un o’n lleoliadau cymeradwy, rydym yn cynnig dewisiadau o seremoni i helpu i wneud y diwrnod yn un arbennig.

Trosi partneriaeth sifil yn briodas

Gallwch drosi’ch partneriaeth sifil yn briodas yn y swyddfa gofrestru.

Cewch dystysgrif priodas, ac arni’r dyddiad y ffurfiwyd eich partneriaeth sifil.

Cewch wybod am gostau trosi partneriaeth sifil yn briodas

Yr hyn y bydd arnoch ei angen

Bydd angen ichi lofnodi datganiad ‘trosi’n briodas’. Gwnewch apwyntiad i wneud hyn gyda’r cofrestrydd arolygol yn y swyddfa gofrestru.

Bydd arnoch angen eich tystysgrif partneriaeth sifil wreiddiol a dull adnabod a dderbynnir.

Trosi’n briodas gyda seremoni

Gallwch ddewis dathlu trosi’ch partneriaeth sifil yn briodas trwy drefnu seremoni gyda ni.

Os ydych chi’n penderfynu bwcio Ystafell Dewi Sant, Ystafell Santes Dwynwen neu un o’n llu o leoliadau cymeradwy, rydym yn cynnig detholiad o seremonïau i gwblhau’ch diwrnod arbennig.

Mae’r wefan hon wedi’i diogelu gan reCAPTCHA ac mae Polisi Preifatrwydd ac Amodau Gwasanaeth Google yn berthnasol.

© 2024 Swyddfa Gofrestru Caerdydd - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd