📍 Ble i gofrestru
Os cafodd eich baban ei eni yn ardal Caerdydd, rhaid i chi ddod i Swyddfa Gofrestru Caerdydd i gofrestru’r enedigaeth. Mae pob cofrestriad drwy apwyntiad yn unig.
Gallwch drefnu ar-lein i fynd i’r canlynol:
- Prif Swyddfa: Archifau Morgannwg, Clos Parc Morgannwg, Lecwydd (Dydd Llun i ddydd Gwener)
- Lleoliadau Cymunedol:
- Hyb Ystum Taf a Gabalfa – Dydd Llun a dydd Mercher
- Llyfrgell Ganolog Caerdydd – Dydd Mawrth a dydd Mercher cyntaf y mis
- Hyb Trelái a Chaerau – Dydd Mercher
- Hyb Llaneirwg – Dydd Iau
Os na allwch ddod i Gaerdydd, gallwch gofrestru’r enedigaeth yn unrhyw Swyddfa Gofrestru yng Nghymru neu Loegr. Bydd y swyddfa honno’n anfon y manylion atom, a byddwn yn cwblhau’r cofrestriad. Nodwch: gall hyn achosi oedi o ran pan fyddwch yn derbyn y dystysgrif geni.
Os ydych am ail-gofrestru baban, cofrestru baban marw-anedig neu genedigaeth a marwolaeth baban, cysylltwch gyda’r swyddfa os gwelwch yn dda, er mwyn sicrhau bod y dogfennau sydd angen arnom gyda ni, ac er mwyn gallu eich cynorthwyo yn y modd gorau.
Allwch cysylltu gyda’r swyddfa.
- Drwy gyfrwng ebost cofrestryddion@caerdydd.gov.uk
- Dros y ffôn 029 2087 1680
Byddwn yn gallu esbonio’r proses i chi a’ch cynorthwyo i gwybod beth i ddisgwyl a pha ddogfennau bydd angen arnoch.
👥 Pwy all gofrestru genedigaeth?
Os yw’r rhieni’n briod neu mewn partneriaeth sifil:
- Gall y naill riant neu’r llall gofrestru ar ei ben ei hun, neu gall y ddau fynd gyda’i gilydd.
- Mae gan y ddau riant gyfrifoldeb rhiant yn awtomatig.
Os nad yw’r rhieni’n briod nac mewn partneriaeth sifil:
- Gall y fam gofrestru’r enedigaeth ar ei phen ei hun.
- I gynnwys manylion y tad, rhaid iddo fynd i’r apwyntiad gyda’r fam.
- I gynnwys manylion yr ail riant benywaidd, rhaid iddi fynd i’r apwyntiad gyda’r fam a rhaid i’r driniaeth fod wedi digwydd mewn clinig trwyddedig yn y DU gyda chaniatâd ysgrifenedig yn cael ei roi gan y fam a’i phartner benywaidd, fel cytundeb bod yn rhiant
- Dim ond y rheini sydd â chyfrifoldeb rhiant a all wneud penderfyniadau cyfreithiol am ofal, addysg ac iechyd y plentyn.
Mae gwybodaeth ychwanegol ar gael yma (yn Saesneg yn unig)
ℹ️ Fel arfer, mae cynnwys manylion y ddau riant er budd gorau eich baban. Os nad yw hyn yn bosib ar y pryd, mae modd eu hychwanegu yn nes ymlaen.
🌍 Os nad ydych yn siarad Cymraeg na Saesneg
Ewch â rhywun gyda chi i helpu i gyfieithu. Gall hyn fod yn ffrind neu’n berthynas, ond rhaid iddo fynd gyda chi, nid yn eich lle. Ewch â phasbortau a thystysgrifau priodas os yn bosib.
📄Yr hyn fydd angen i chi fynd gyda chi:
Gofynnir i chi gadarnhau’r holl fanylion yn ystod yr apwyntiad. Gwiriwch bopeth yn ofalus cyn llofnodi.
Ewch â’r canlynol:
- Enw llawn, dyddiad geni a man geni’r baban
- Enw llawn, dyddiad geni a man geni’r fam
- Manylion y tad/rhiant (os yw’n berthnasol)
- Dull adnabod (e.e. pasbort, trwydded yrru)
- Dogfennau ategol (e.e. tystysgrif priodas)
🧾Tystysgrifau geni
Gallwch brynu tystysgrif geni lawn ar y diwrnod cofrestru am £12.50 a gallwch dalu gydag arian parod neu gerdyn. Mae angen hyn ar gyfer:
- Ceisiadau am basbort
- Budd-dal plant
- Cofrestru yn yr ysgol, ac ati.
Os ydych yn archebu tystysgrif wedi’r diwrnod cofrestru, gall y gost fod yn uwch.
✏️ Cywiro neu newid cofnod genedigaeth
Ar ôl i’r cofrestriad gael ei lofnodi, bydd unrhyw gywiriadau yn arwain at ffi:
- £83.00 – os caiff ei drin gan y swyddfa leol
- £99.00 – os caiff ei gyfeirio at Swyddfa’r Cofrestrydd Cyffredinol
⚠️ Nid oes modd ad-dalu’r ffioedd hyn, hyd yn oed os nad yw’r cywiriad yn cael ei gymeradwyo.
🔤 Newid enw(au) cyntaf eich plentyn
Gallwch wneud cais i newid enw(au) cyntaf eich plentyn o fewn 12 mis o gofrestru.
Ffioedd:
- £44.00 (nid oes modd ei ad-dalu)
Yr hyn sydd ei angen arnoch:
- Mae bedydd wedi digwydd: Tystysgrif Enw a Roddwyd gyda Bedydd (o’r eglwys)
- Nid yw bedydd wedi digwydd: Tystysgrif Enw Na Roddwyd gyda Bedydd (o’r swyddfa gofrestru)
Cyflwynwch y dystysgrif i’r swyddfa gofrestru yn yr ardal lle cafodd eich plentyn ei eni. Gallwch wneud hyn yn bersonol neu drwy’r post (cysylltwch â’r swyddfa i gael manylion talu).
Tystysgrifau newydd:
- Bydd tystysgrif lawn yn dangos yr enwau newydd a’r enwau gwreiddiol.
- Bydd tystysgrif fer yn dangos yr enw newydd yn unig.
- Mae angen tystysgrif lawn ar swyddfa basbort.
⚠️Nodiadau Pwysig
- Rhaid i chi ddilyn unrhyw Orchmynion Llys ynglŷn ag enwi eich plentyn.
- Ni allwch newid cyfenw eich plentyn ar y gofrestr genedigaethau.
- Dim ond unwaith y gallwch newid cyfenwau.
- Ar ôl i’ch plentyn gael ei fedyddio, ni allwch newid yr enwau Cristnogol a roddwyd ar adeg y bedydd.
- Os ydych yn gwneud cais ar ôl 12 mis, rhaid i chi gyflwyno prawf bod yr enw wedi’i newid o fewn y flwyddyn gyntaf.
✅ Rhestr Wirio Gyflym
- Trefnu apwyntiad
- Mynd â dull adnabod a dogfennau
- Mae’r ddau riant yn mynd os nad ydynt yn briod/partneriaid sifil
- Gwirio’r holl fanylion yn ofalus cyn llofnodi
- Talu am dystysgrifau os oes angen